Baner Jamaica

Baner Jamaica

Sawtyr aur sy'n rhannu baner Jamaica yn bedair rhan: trionglau'r brig a'r gwaelod yn wyrdd, a thrionglau'r hoist a'r fly yn ddu. Lliwiau pan-Affricanaidd yw lliwiau'r faner; hefyd yn unigol, mae aur yn cynrychioli'r haul, gwyrdd y tir, a du yn symboleiddio caledi.

Esboniad lleol y faner yw "er bod caledi gwyrdd yw'r tir ac mae'r haul yn tywynnu".

Y faner arfaethedig gyntaf

Mabwysiadwyd y faner ar 6 Awst 1962 yn dilyn cystadleuaeth gyhoeddus genedlaethol am faner yn sgîl annibyniaeth yr ynys ar y Deyrnas Unedig. Roedd gan y dyluniad gwreiddiol stribedi llorweddol, ond ystyriwyd hyn yn rhy debyg i faner Tanganyika felly defnyddiwyd sawtyr.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search